Adran Gwaith a Phensiynau

Tools menu


Chwilio'r safle

Site navigation

Ynglŷn â DWP


Y Tîm Gweithredol

Robert Devereux – Ysgrifennydd Parhaol

Robert Devereux

Gellir cysylltu ag ef drwy Departmental Secretariat, 4th Floor, Caxton House, 6-12 Tothill Street, London, SW1H 9NA

Cyfrifoldebau

Yr Ysgrifennydd Parhaol yw Pennaeth yr Adran, ac mae'n gyfrifol am effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd bob agwedd ar waith yr Adran o ran cefnogi'r amcanion a'r polisïau a bennir gan y Gweinidogion. Mae'r Ysgrifennydd Parhaol hefyd yn cyflawni rôl y Prif Swyddog Cyfrifyddu ar gyfer yr Adran ac yn gyfrifol am briodoldeb a rheoleidd-dra gwariant yr Adran. Mae'r Ysgrifennydd Parhaol hefyd yn gyfrifol am arwain, rheoli a staffio'r Adran ac am weithdrefnau ar draws yr Adran o ran cyllid a materion eraill.

Mae cyfrifoldebau Pennaeth yr Adran yn bennaf yn cael eu cwmpasu’n llawn yn:

Bywgraffiad

Ail-ymunodd Robert â'r Adran Gwaith a Phensiynau fel Ysgrifennydd Parhaol ar 1 Ionawr 2011, ar ôl treulio’r pedair blynedd flaenorol yn yr Adran Nawdd Cymdeithasol, a dwy flynedd yn yr Adran Gwaith a Phensiynau pan gafodd ei chreu yn gyntaf yn 2001.

Dechreuodd gyrfa gwasanaeth sifil Robert yn y Weinyddiaeth Datblygu Tramor, ac mae wedi gweithio yn Nhrysorlys EM, ar secondiad i Guinness Brewing Worldwide, ac ers 2003 yn yr Adran Drafnidiaeth, lle bu’n Ysgrifennydd Parhaol am 3 blynedd.

Mae Robert yn briod, gyda dwy ferch, ac mae'n byw yn Kilburn, Llundain.

Terry Moran – Ail Ysgrifennydd Parhaol a Phrif Swyddog Gweithredol

Terry Moran

Gellir cysylltu ag ef drwy Departmental Secretariat, 4th Floor, Caxton House, 6-12 Tothill Street, London, SW1H 9NA

Rôl a Chyfrifoldebau

Yn gyfrifol am arwain pob un o wasanaethau’r Adran Gwaith a Phensiynau i’r cyhoedd, y rhai a ddarperir gan ein staff ein hunain a’r rhai a ddarperir o dan gytundeb. Hefyd ef yw’r Uwch Berchennog Cyfrifol ar gyfer y Rhaglen Credyd Cynhwysol yn gyfrifol am gynllunio a gweithredu Credyd Cynhwysol. Bydd Credyd Cynhwysol yn symleiddio’r system budd-daliadau drwy ddod ag ystod o fudd-daliadau oedran gwaith at ei gilydd i mewn i daliad sengl symlach i wneud i waith dalu ac i fynd i’r afael â diffyg gwaith a thlodi.

Mae Terry hefyd yn gyfrifol am Ddilyniant Busnes ar gyfer yr Adran.

Bywgraffiad

Penodwyd Terry yn Ail Ysgrifennydd Parhaol yr Adran Gwaith a Phensiynau ar 4 Gorffennaf 2012, gan barhau yn ei swydd fel Prif Swyddog Gweithredol a ddechreuodd ar 3 Hydref 2011, ac yn ei rôl fel yr Uwch Berchennog Cyfrifol ar gyfer Credyd Cynhwysol a ddechreuodd ar 1 Rhagfyr 2010. Yn flaenorol roedd yn Brif Weithredwr y Gwasanaeth Pensiwn, Anabledd a Gofalwyr (1 Ebrill 2008 - 30 Tachwedd 2010); Prif Weithredwr Dros Dro'r Gwasanaeth Pensiwn ( 23 Gorffennaf 2007 - 30 Mawrth 2008); a Phrif Weithredwr y Gwasanaeth Anabledd a Gofalwyr (Mehefin 2004 - Mehefin 2007).

Ymunodd â'r Adran yn 1977 yn syth ar ôl gadael yr ysgol fel cynorthwyydd clerigol a threuliodd ei 12 mlynedd gyntaf yn gweithio mewn swyddfeydd lleol yn Swydd Efrog a Llundain. Mae gyrfa Terry wedi cynnwys amser fel Pennaeth Rheoli Budd-daliadau, Cyfarwyddwr Ardal Swydd Efrog yn yr Asiantaeth Budd-daliadau a Chyfarwyddwr Maes y Ganolfan Byd Gwaith ar gyfer Gogledd-orllewin Lloegr.

Sue Owen – Cyfarwyddwr Cyffredinol, Strategaeth

Sue Owen

Gellir cysylltu ag ef drwy Departmental Secretariat, 4th Floor, Caxton House, 6-12 Tothill Street, London, SW1H 9NA

Rôl a Chyfrifoldebau

Mae’r Cyfarwyddwr Cyffredinol of Strategaeth cynghori ac yn cefnogi Gweinidogion a Phennaeth yr Adran yn y gwaith o lunio polisi’r Llywodraeth sy’n ymwneud â Diwygiadau pensiwn a lles ac agenda cyfiawnder cymdeithasol y Llywodraeth gan edrych y tu hwnt i’r diwygiadau unigol sydd eisoes ar waith.

Bywgraffiad

Dechreuodd Sue y gwaith o Gyfarwyddwr Cyffredinol for Strategaeth ar 3 Hydref, yn flaenorol wedi ymuno â’r Adran yn Ebrill 2009 fel ei Gyfarwyddwr Cyffredinol Lles. O 2006-09 roedd yn Gyfarwyddwr Cyffredinol Perfformiad Corfforaethol yn yr Adran dros Ddatblygu Rhyngwladol. Ymunodd Sue â'r Trysorlys yn 1989 ar ôl 10 mlynedd fel economegydd farchnad lafur. Mae hi hefyd wedi gweithio yn yr Uned Bolisi Rhif 10, gan roi cyngor ar bolisi teulu, ac yn Llysgenhadaeth Prydain yn Washington yn gweithio ar ddiwygio lles. Ei swydd olaf yn y Trysorlys oedd fel Cyfarwyddwr yn gyfrifol am bolisi EMU ar ddyled genedlaethol.

Mae Sue yn briod â’r Athro Martin Albrow ac mae ganddi 3 lysfab ac un mab. Mae’n byw yn Ne Ddwyrain Llundain, yn cefnogi Clwb Pêl-droed Everton ac yn arddwr brwd.

Gill Aitken – Cyfarwyddwr Cyffredinol, Gwasanaethau Proffesiynol

Gill Aitken

Gellir cysylltu â hi drwy Departmental Secretariat, 4th Floor, Caxton House, 6-12 Tothill Street, London, SW1H 9NA

Rôl a Chyfrifoldebau

Mae Gill Aitken yn arwain Gwasanaethau Proffesiynol yr Adran ac mae hefyd yn uwch gyfreithiwr yr Adran Gwaith a Phensiynau. Mae Gwasanaethau Proffesiynol yn dwyn ynghyd y Penaethiaid Proffesiwn ar gyfer nifer o feysydd yr Adran a’u staff: Cyfathrebu, Gwybodaeth, Llywodraethu a Gwasanaethau Diogelwch, Gwasanaethau Cyfreithiol yr Adran Gwaith a Phensiynau a’r Adran Iechyd, Cyngor Meddygol a Dadansoddol, a Swyddfa Breifat Gweinidogion.

Mae Gwasanaethau Proffesiynol yr Adran Gwaith a Phensiynau yn sicrhau bod polisïau'r Adran yn seiliedig ar dystiolaeth, yn gyfreithlon ac yn cael eu cyfathrebu’n dda. Nod Gill yw sicrhau bod dylanwad y proffesiynau ar bolisïau a gweithredu yn cryfhau gallu’r Adran i gyflenwi ei hamcanion o ran diwygio lles a phensiynau i gyflenwi gwasanaethau cyfredol yr Adran Gwaith a Phensiynau i’r cyhoedd.

Fel Uwch Berchennog Risg Gwybodaeth a Hyrwyddwr Tryloywder yr Adran Gwaith a Phensiynau ame Gill yn gyfrifol am sicrhau ein bod yn cadw gwybodaeth yn ddiogel a hefyd yn ei ddefnyddio yn ddeallus ac yn greadigol i hyrwyddo gwaith y Llywodraeth. Mae ganddi hefyd gyfrifoldeb dros raglen trawsnewid yr adran.

Bywgraffiad

Dechreuodd Gill y gwaith o Gyfarwyddwr Cyffredinol Gwasanaethau Proffesiynol ar 3 Hydref; yn flaenorol wedi ymuno â’r Adran fel Cyfarwyddwr Cyffredinol o’r Grŵp Cyfreithiol ar 1 Mawrth 2010.

Dechreuodd Gill ei bywyd gwaith yn y sector wirfoddol: lobïo a newyddiaduro ar faterion anabledd. Yna gymhwysodd fel cyfreithiwr a threuliodd sawl blwyddyn yn “y ddinas” yn arbenigo mewn rheoliad fferyllol ac ymgyfreitha.

Eisiau cael y wefr o lywodraeth a’r her o gyfraith gyhoeddus, yn 1993 symudodd Gill i Wasanaeth Cyfreithiol y Llywodraeth a’r swyddfa gyfreithiol oedd yn cynghori’r Adran Gwaith a Phensiynau a’r Adran Iechyd. Dros y blynyddoedd nesaf arbenigodd mewn gwaith GIG hyd nes y cafodd ei phenodi fel yr Ymgynghorydd Cyfreithiol i’r Asiantaeth Rheoli Meddyginiaethau. Ei swydd gyntaf ar lefel Cyfarwyddwr oedd gydag  Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) yn 2004 lle bu’n gweithio ar Bolisi Amaethyddol Cyffredin yr UE a rheoliadau amgylcheddol. Cafodd ei phenodi yn Gyfarwyddwr Cyffredinol a Chyfreithiwr i Defra ym mis Ionawr 2007, a daeth yn Gyfarwyddwr Cyffredinol dros Gyfraith a Gwasanaethau Corfforaethol Defra ym mis Chwefror 2009.

Dychwelodd Gill i’r Adran Gwaith a Phensiynau fel Cyfarwyddwr Cyffredinol, Grŵp Cyfreithiol, ar 1 Mawrth 2010 a dechreuodd y gwaith o Gyfarwyddwr Cyffredinol for Gwasanaethau Proffesiynol ar 3 Hydref 2011.

Mike Driver – Cyfarwyddwr Cyffredinol Dros Dro, Cyllid

Cyhoeddir manylion yn fuan.

Chris Last - Cyfarwyddwr Cyffredinol, Adnoddau Dynol a Phennaeth Gweithrediadau AD y Llywodraeth

Chris Last

Gellir cysylltu ag ef drwy Departmental Secretariat, 4th Floor, Caxton House, 6-12 Tothill Street, London, SW1H 9NA

Rôl a Chyfrifoldebau

Mae'r Cyfarwyddwr Cyffredinol Adnoddau Dynol yn Bennaeth y Proffesiwn ar gyfer staff adnoddau dynol yr Adran. Mae'n gyfrifol am ddarparu gwasanaeth adnoddau dynol cydlynol i gyflogeion a rheolwyr yr Adran. Mae Chris hefyd yn Bennaeth Gweithrediadau Adnoddau Dynol y Llywodraeth.

Bywgraffiad

Ers ymuno â'r Gwasanaeth Sifil tair blynedd yn ôl, mae Chris wedi canolbwyntio ar drawsnewid Adnoddau Dynol yn broffesiwn llai, sydd â mwy o ffocws. Mae wedi cyflwyno rhaglen mynediad i raddedigion ar gyfer Adnoddau Dynol, a’r Gwasanaeth Sifil bellach yw recriwtiwr mwyaf o raddedigion Adnoddau Dynol y DU.

Mae uwch reolaeth Adnoddau Dynol wedi dechrau ar y broses o ad-drefnu Adnoddau Dynol ar draws y llywodraeth, o'i fodel blaenorol o ddarparu pob adran o'r llywodraeth gyda'i wasanaeth Adnoddau Dynol cyflawn eu hunain. Mae meysydd presennol wedi canolbwyntio ar ddysgu, darparu adnoddau a pholisïau Adnoddau Dynol. Mae'r newidiadau hyn wedi gwella darpariaeth Adnoddau Dynol tra’n lleihau maint Adnoddau Dynol yn sylweddol o ran cost a nifer y staff.

Cyn ymuno â’r Gwasanaeth Sifil gweithiodd Chris i Gwmni Moduron Ford mewn amrywiaeth eang o rolau Adnoddau Dynol yn Essex, De Cymru, yr UDA ac yn fwy diweddar yn y swyddfa grŵp yn Llundain.

Noel Shanahan – Director General, Operations and Child Maintenance Group

Details will be published shortly.

Mae'r wybodaeth ar y wefan hon yn Gymraeg. Fodd bynnag, gall rhai cysylltiadau eich arwain at wybodaeth yn Saesneg.