Adran Gwaith a Phensiynau

Tools menu


Chwilio'r safle

Site navigation

Ynglŷn â DWP


Cyfarwyddwyr Anweithredol

Gellir cysylltu ag ef drwy Departmental Secretariat, 4th Floor, Caxton House, 6-12 Tothill Street, London, SW1H 9NA.

Ian Cheshire – Aelod Anweithredol Arweiniol y Bwrdd Adrannol

Ian Cheshire

Penodwyd Ian Cheshire fel yr Aelod Anweithredol Arweiniol y Bwrdd Adrannol ar y 1 Chwefror 2011.

Bywgraffiad

Penodwyd Ian yn Grŵp Brif Weithredwr o Kingfisher plc ym mis Ionawr 2008. Cyn hynny roedd yn Brif Weithredwr B&Q o fis Mehefin 2005. Mae ei swyddi blaenorol gyda Kingfisher yn cynnwys Prif Weithredwr Rhyngwladol a Datblygu, Prif Weithredwr e-Kingfisher a Chyfarwyddwr Strategaeth a Datblygu’r Grŵp. Cyn ymuno â Kingfisher yn 1998 bu’n gweithio i nifer o fusnesau manwerthu, gan gynnwys Sears plc ble roedd yn Gyfarwyddwr Masnachol y Grŵp.

Mae Ian hefyd yn aelod o:

John Clare

Penodwyd John Clare i’r Bwrdd Adrannol ym mis Ebrill 2011. Mae hefyd yn Gadeirydd anweithredol Bwrdd y Ganolfan Byd Gwaith. 

Bywgraffiad

Ymunodd John â Dixons yn 1985 fel Cyfarwyddwr Marchnata, a daeth yn Rheolwr Gyfarwyddwr y flwyddyn ganlynol. Cafodd ei benodi i Fwrdd y Grŵp yn 1988, daeth yn Rheolwr Gyfarwyddwr y Grŵp yn 1992 a Phrif Weithredwr y Grŵp yn 1994. Ymddeolodd John o DSGi ym mis Medi 2007. Roedd yn aelod anweithredol o Fwrdd JJB rhwng mis Gorffennaf 2009 a mis Rhagfyr 2010.

John yw Cadeirydd Dreams Plc. Mae hefyd yn gyfarwyddwr anweithredol gyda Dyson Ltd a Digital Technology Ltd; ac mae’n Aelod o Fwrdd Datblygu Prifysgol Caeredin.

Mae John hefyd wedi gweithio gyda Bwrdd Hammerson a Llywydd Cymdeithas Gorfforedig Hysbysebwyr Prydain.

Dame Clara Furse

Penodwyd Y Fonesig Clara Furse i’r Bwrdd Adrannol ym mis Mehefin 2011.

Bywgraffiad

Mae’r Fonesig Clara Furse yn Gyfarwyddwraig anweithredol gyda’r Legal and General Group, Nomura Holdings (a’i is-gwmnïau a reoleiddir gan yr FSA) ac Amadeus IT Holdings; mae’n Gadeirydd Nomura Bank International, Amadeus’ Remuneration and Nominations Committee ac mae’n aelod o ddau Bwyllgor Archwilio a dau Bwyllgor Risg. Yn flaenorol Y Fonesig Clara oedd Prif Weithredwr Marchnad Stoc Llundain rhwng 2001 a 2009. Cyn hynny hi oedd Prif Swyddog Gweithredol Credit Lyonnais Rouse a gweithiodd gyda UBS am 15 mlynedd.

David Lister

Penodwyd David Lister i’r Bwrdd Adrannol ym mis Mehefin 2011.

Bywgraffiad

Mae David Lister wedi bod yn Grŵp CIO gyda’r Grid Cenedlaethol ers 2009, ac yn ystod y cyfnod hwn mae wedi bod yn arwain trawsnewid yn strategaeth technoleg y Grid.

Cyn iddo ymuno â’r Grid Cenedlaethol, roedd David yn dal safleoedd Uwch Arweinyddiaeth ar draws ystod eang o ddiwydiannau, yn cynnwys amser gyda RBS, Reuters, Boots, Glaxo Welcome, Diageo, Amec a Coopers & Lybrand, yn gweithio ar draws y mwyafrif o farchnadoedd byd-eang. Astudiodd Bensaernïaeth ym Mhrifysgol Caeredin ac ar hyn o bryd mae’n aelod o CIO Board of E-Skills UK, ar ôl bod yn flaenorol yn Gyfarwyddwr Anweithredol o iXEurope.

Willy Roe

Penodwyd Willy Roe i’r Bwrdd Adrannol ym mis Ebrill 2011. Mae hefyd yn Gadeirydd anweithredol Bwrdd y Gwasanaeth Pensiwn, Anabledd a Gofalwyr. 

Bywgraffiad

Mae Willy wedi cadeirio Board of Highlands and Islands Enterprise ers 2004. Yn 2008, penodwyd Willy gan Lywodraeth Yr Alban i fod yn Gomisiynydd Yr Alban ar Gomisiwn y DU dros Gyflogaeth a Sgiliau, swydd mae’n ei ddal tan fis Mawrth 2012. Ym mis Awst 2010, penododd Llywodraeth Yr Alban Willy i arwain adolygiad annibynnol o addysg a hyfforddiant galwedigaethol yn Yr Alban.

Mae'r wybodaeth ar y wefan hon yn Gymraeg. Fodd bynnag, gall rhai cysylltiadau eich arwain at wybodaeth yn Saesneg.