Cyrff cyhoeddus
Cyrff cyhoeddus
Mae dynion a merched o bob math o gefndiroedd yn cyfranogi mewn bywyd cyhoeddus drwy fod yn aelodau o fyrddau a phwyllgorau cyrff cyhoeddus. Maent yn cynghori Gweinidogion ac adrannau'r llywodraeth ar amrywiaeth eang o faterion polisi ac ar y ffyrdd mwyaf effeithiol o gyflwyno gwasanaethau cyhoeddus. Maent yn chwarae rhan hanfodol mewn llunio Prydain ac felly mae angen iddynt adlewyrchu'r gwahanol brofiadau o fywyd sydd yn y gymdeithas fwy fwy amrywiol ac amlddiwylliannol.
Rydym yn arbennig o awyddus i ddenu pobl o grwpiau a dangynrychiolir i gymryd penodiadau - gan gynnwys merched , pobl anabl a phobl o gefndiroedd ethnig lleiafrifol.