Gweinidogion
- Y Gwir Anrhydeddus Iain Duncan Smith AS – Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau
- Y Gwir Anrhydeddus Chris Grayling AS - Gweinidog dros Gyflogaeth
- Steve Webb AS - Gweinidog dros Bensiynau
- Maria Miller AS - Gweinidog dros Bobl Anabl
- Lord Freud - Gweinidog dros Ddiwygio Lles
Y Gwir Anrhydeddus Iain Duncan Smith AS
Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau

Bywgraffiad
Penodwyd Iain Duncan Smith fel Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau ym mis Mai 2010 fel rhan o Lywodraeth Glymbleidiol y Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol.
Cafodd ei eni yng Nghaeredin a chyn dechrau ei yrfa gwleidyddol bu’n gwasanaethu yn y lluoedd arfog gyda’r Scots Guards cyn gadael i ymuno â General Electric.
Etholwyd ef fel AS ar gyfer Chingford a Woodford Green am y tro cyntaf yn Etholiad Cyffredinol 1992 ac mae wedi gwasanaethu fel Arweinydd y Blaid Geidwadol rhwng mis Medi 2001 a mis Tachwedd 2003.
Yn 2004, sefydlodd y Ganolfan dros Gyfiawnder Cymdeithasol (CSJ) i fynd i’r afael â thlodi ac mae wedi parhau fel cadeirydd y sefydliad tan iddo gymryd y swydd o Ysgrifennydd Gwladol.
Y Gwir Anrhydeddus Chris Grayling AS
Gweinidog dros Gyflogaeth

Bywgraffiad
Mae Chris Grayling wedi bod yn AS dros for Epsom ac Ewell ers 2001 ac mae’n byw yn yr etholaeth gyda’i wraig Sue a’u dau o blant.
Rhwng 2003 a 2009, daliodd Chris nifer o swyddi Cysgodol ym mainc flaen yr Wrthblaid yn cynnwys Gweinidog Cysgodol Addysg Uwch ac Addysg Bellach, Arweinydd Cysgodol y Tŷ Cyffredin, Ysgrifennydd Gwladol Cysgodol dros Drafnidiaeth, Ysgrifennydd Gwladol Cysgodol dros Waith a Phensiynau ac Ysgrifennydd Cartref Cysgodol. Yn dilyn creu’r llywodraeth glymblaid ym mis Mai 2010 fe’i penodwyd yn Weinidog Gwladol yn yr Adran Gwaith a Phensiynau.
Wedi’i eni yn 1962, magwyd Chris yn Swydd Buckingham. Fe’i addysgwyd yn y Royal Grammar School, High Wycombe cyn mynd ymlaen i Goleg Sidney Sussex, Caergrawnt, i ddarllen hanes. Yn dilyn y brifysgol, ymunodd â Chynllun Hyfforddiant Newyddion y BBC, a bu’n gweithio fel cynhyrchydd ar Newyddion y BBC News a rhaglen Business Daily ar Channel 4.
Ar ôl ychydig o flynyddoedd mewn cynhyrchu ar gyfer y teledu, penderfynodd symud i’r ochr fusnes o’r diwydiant cyfryngau, a bu’n rhedeg nifer o fusnesau cynhyrchu bychan a chanolig cyn symud i fod yn gyfarwyddwr ym mhractis Employee Communication yn y cwmni cyfathrebu rhyngwladol Burson Marsteller. Daeth ei gyfnod yno i ben fel Cyfarwyddwr Marchnata Ewropeaidd y cwmni.
Dechreuodd Chris fod yn weithredol mewn gwleidyddiaeth leol tra’n byw yn Wimbledon, De Llundain, a daeth yn swyddog yng Nghymdeithas Y Ceidwadwyr yn Wimbledon ac yn gynghorydd Ceidwladol ym Mwrdeistref Merton o Lundain.
Steve Webb AS
Gweinidog dros Bensiynau

Bywgraffiad
Yn 1997 daeth Steve Webb yn AS y Democratiaid Rhyddfrydol dros Northavon. Mae’n byw yn yr etholaeth gyda’i wraig a’i ddau o blant.
Cyn iddo gael ei ethol, astudiodd Steve Athroniaeth, Gwleidyddiaeth ac Economeg yng Ngholeg Hertford, Rhydychen. Bu’n gweithio fel economegydd yn y Sefydliad Astudiaethau Cyllid o 1986 i 1995 cyn cael ei benodi yn Athro Polisi Cymdeithasol ym Mhrifysgol Caerfaddon.
Mae cyfrifoldebau seneddol Steve Webb wedi cynnwys bod yn llefarydd y Democratiaid Rhyddfrydol ar Waith a Phensiynau rhwng 1999-2005. Mae hefyd wedi gweithio fel llefarydd y Democratiaid Rhyddfrydol ar Iechyd (2005), Cadeirydd Grŵp Maniffesto'r Democratiaid Rhyddfrydol (2006), Llefarydd ar Ynni, Bwyd a Materion Cefn Gwlad (2007) a Llefarydd ar Ynni a Newid Hinsawdd (2008). Yn 2009 dychwelodd i’w swydd flaenorol fel prif Lefarydd ar faterion Gwaith a Phensiynau, a daeth yn Weinidog Gwladol dros Bensiynau ym mis Mai 2010 o dan y llywodraeth glymblaid newydd.
Ar wahân i’w ddyletswyddau seneddol, mae Steve yn weithredol gyda’r Gymrodoriaeth Gristnogol Seneddol ac mae’n rhoi ei hobïau fel y rhyngrwyd/cyfrifiaduron, cerddoriaeth, a bod yn gefnogwr o West Bromwich Albion.
Maria Miller AS
Gweinidog dros Bobl Anabl

Bywgraffiad
Mae Maria Miller wedi bod yn Aelod Seneddol Basingstoke ers yr Etholiad Cyffredinol yn 2005. Mae’n briod â Iain Miller, ac mae ganddynt un ferch a dau o feibion.
Cyn mynd i’r Senedd roedd Maria yn gyfarwyddwr o Grey Advertising a hefyd Rowland Saatchi. Cyn hynny roedd Maria yn gweithio i gwmni olew Texaco mewn datblygu busnes a marchnata.
Pan ddaeth yn Aelod Seneddol fe benodwyd Maria i’r Pwyllgor Dethol Masnach a Diwydiant. Daeth yn Weinidog Cysgodol dros Addysg ym mis Rhagfyr 2005 ac yna yn Weinidog Cysgodol dros Les Teuluol yn yr Adran Gwaith a Phensiynau ym mis Tachwedd 2006. Symudodd Maria yn ôl i’r tîm Addysg fel Gweinidog Cysgodol dros y Teulu ym mis Gorffennaf 2007 a pharhaodd i wneud y gwaith hynny tan yr Etholiad Cyffredinol yn 2010.
Lord Freud
Gweinidog dros Ddiwygio Lles

Bywgraffiad
David Freud yw’r Is-ysgrifennydd Seneddol (Tŷ’r Arglwyddi) dros yr Adran Gwaith a Phensiynau.
Fe’i penodwyd yn Weinidog Cysgodol dros Ddiwygio Lles yn Chwefror 2009 ac roedd hefyd yn aelod o’r Cyngor Adferiad yr Economi yn cynghori arweinydd y Ceidwadwyr, David Cameron o Chwefror 2009 i Mai 2010.
Rhwng Ionawr 2008 a Chwefror 2009 bu’n gweithredu fel cynghorydd ar ddiwygio lles i Lywodraeth y DU. Roedd hyn yn dilyn cyhoeddi ei adroddiad annibynnol ym mis Mawrth 2007 – “Reducing Dependency, Increasing Opportunity” ar y system O Les i Waith.
Roedd yn Brif Swyddog Gweithredol o The Portland Trust yn 2005-2008 ac mae’n parhau i fod yn ymddiriedolwr ac yn gyfarwyddwr o’r sefydliad di-elw, a’u cenhadaeth yw i annog heddwch a sefydlogrwydd rhwng yr Israeliaid ar Palesteiniaid drwy ffyrdd economaidd.
Roedd yn Is-gadeirydd o Fancio Buddsoddiadol i UBS ac yn Bennaeth Byd-eang o Drafnidiaeth/Hamdden/Gwasanaethau Busnes, gan ymddeol yn 2003. Roedd yn gyfrifol am ddau ailstrwythuro cymhleth – Nats yn 2003 a Chysylltiad Rheilffordd Twnel y Sianel yn 1998. Cynhaliodd gytundebau 19 o wledydd, yn cynnwys sefydlu’r canlynol ar y marchnadoedd arian Deutsche Post, Autostrade, Eurotunnel, Qantas, easyJet ac Hong Kong metro.
Cyhoeddwyd ei lyfr “Freud in the City” ym mis Mai 2006 fel dehongliad rhywun mewnol o beth ddigwyddodd yn y Ddinas yn Llundain yn ystod y chwyldro ariannol yn niwedd yr ugeinfed ganrif.
Cyn ei yrfa bancio, roedd yn newyddiadurwr gyda’r Financial Times am wyth mlynedd, gyda pedwar o’r rheini yn cael eu treulio’n ysgrifennu’r golofn Lex.
Sut i gysylltu â gweinidogion
Neu ysgrifennwch atynt yn:
Department for Work and Pensions
Caxton House
Tothill Street
London
SW1H 9DA