Adran Gwaith a Phensiynau

Tools menu


Chwilio'r safle

Site navigation

Ynglŷn â DWP


Sut rydym wedi cael ein trefnu

Mae'r Tîm Gweithredol yn rhoi cymorth i bennaeth yr Adran drwy ddarparu arweinyddiaeth gorfforaethol i'r Adran Gwaith a Phensiynau.

Mae siart sefydliad llawn yr Adran Gwaith a Phensiynau wedi'i restru o dan y datganiadau Tryloywder isod.

Tryloywder

Fel rhan o agenda tryloywder y Llywodraeth, rydym wedi cyhoeddi:

Datganiad Hydref 2011

Mae 15 SCS wedi cael eu gadael allan o’r fersiwn hwn o’r siart sefydliad dros dro; ar hyn o bryd nad ydynt mewn swydd barhaol ond maent yn parhau i gael eu cyflogi gan yr Adran Gwaith a Phensiynau. Bydd diweddariad o’r siart sefydliad yn cael ei gyhoeddi’n fuan i gynnwys y bobl hyn. Maent wedi cael eu gadael allan o ganlyniad i nam technegol, sydd yn cael ei gywiro.

Datganiad Mawrth 2011

Datganiad Mehefin 2010

Setiau data swyddi uwch ac is

Mae'r ffigurau ar lefel uchel yn cyd-fynd â'r rhai a gyhoeddwyd yn flaenorol gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Mewn rhai achosion, er enghraifft lle mae dau neu fwy o aelodau'r Uwch Wasanaeth Sifil yn defnyddio'r un gyllideb ar gyfer eu costau, ni fu'n bosib dangos nifer y gweithwyr sy'n adrodd i bob aelod SCS unigol. Cyfrifir costau cyflog o bob tîm a ddangosir gan ddefnyddio cyflogau gwirioneddol ar gyfer staff is. Mae cyflogau SCS a gynhwysir yn y costau cyflog wedi eu talgrynnu i’r £5000 agosaf. Mewn rhai achosion, mae rhifau tîm a chostau cyflogau wedi cael eu cyfuno, er enghraifft, lle mae gan y tîm llai na 5 o bobl, mae'r costau cyflog wedi cael eu cyfuno â thîm arall.

Mae'r wybodaeth ar y wefan hon yn Gymraeg. Fodd bynnag, gall rhai cysylltiadau eich arwain at wybodaeth yn Saesneg.