Cynlluniau cydraddoldeb yr Adran Gwaith a Phensiynau
Fel awdurdod cyhoeddus, mae gofyn i'r Adran Gwaith a Phensiynau gynhyrchu a chyhoeddi cynlluniau cydraddoldeb hil, anabledd a rhywedd i gwrdd â gofynion deddfwriaethol. Bydd y cynlluniau hyn yn gosod allan sut byddwn yn mynd ymlaen gyda'n dyletswyddau cyfreithiol.
Dogfennau ysgrifenedig sy'n rhoi'r darlun llawn o beth mae sefydliad yn ei wneud i hyrwyddo cydraddoldeb i'w chwsmeriaid a'i staff yw cynlluniau cydraddoldeb. Maent yn cynnwys cynllun gweithredol oedd yn rhaid i fod wedi'i ddatblygu gan ystyried barn cwsmeriaid ar lle rydym angen gweithredu fwyaf.
Mae'r Adran Gwaith a Phensiynau yn derbyn yr angen am gynlluniau cydraddoldeb hil, anabledd a rhywedd fel ffordd o adnabod sut rydym yn cyflenwi'r polisïau a gwasanaethau mae cwsmeriaid eu hangen. Mae gennym adolygiadau o'n cynlluniau cydraddoldeb ac adroddiadau cynnydd blynyddol i mewn i'n prif gynlluniau busnes, fel bod cydraddoldeb yn cael ei ystyried yn rhan o fusnes pob dydd yr Adran.
Mae cynlluniau cydraddoldeb yn cael eu hadolygu bob tair blynedd ac mae adroddiadau ar y cynnydd yn cael eu cyhoeddi'n flynyddol.
- Adroddiadau cynnydd 2009 (cyhoeddwyd 30 Mehefin 2009)
- Cynlluniau cydraddoldeb 2008-2011 (cyhoeddwyd 29 Mai 2008)
- Adroddiadau cynnydd s 2007 (cyhoeddwyd 30 Tachwedd 2007)
- Cynlluniau cydraddoldeb 2006-2008 (cyhoeddwyd 1 Rhagfyr 2006)
