Y Gwasanaeth Pensiwn
Mae’r Gwasanaeth Pensiwn yn rhan o’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP). Mae’n darparu ei chwsmeriaid gyda phensiynau, budd-daliadau a gwybodaeth am ymddeol - er enghraifft, Pensiwn y Wladwriaeth a Chredyd Pensiwn.
Sefydlwyd y Gwasanaeth Pensiwn i wella’r gwasanaeth rydych yn ei dderbyn, os ydych yn bensiynwr yn barod neu’n cynllunio ar gyfer eich ymddeoliad, pa bynnag mor bell i ffwrdd yw hynny.
Mae gan y Gwasanaeth Pensiwn rwydwaith o ganolfannau pensiwn wedi’u cefnogi gan wasanaeth lleol.
Beth rydym yn ei wneud
Bydd y Gwasanaeth Pensiwn yn:
- gweithio allan y swm o Bensiwn y Wladwriaeth a Chredyd Pensiwn mae gennych hawl iddo
- darparu gwasanaeth wyneb yn wyneb mewn lleoliad sy’n gyfleus i chi neu yn eich cartref os na ellir delio â’ch busnes dros y ffôn
- talu eich hawliadau i chi ac ateb unrhyw gwestiynau dros y ffôn a drwy’r post a thrwy e-bost
- dweud wrthych sut y gallwch gael mynediad i hawliadau a gwasanaethau eraill sy’n gysylltiedig â phensiynau
- Gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau lleol eraill i gyflenwi gwasanaethau eraill sy’n gysylltiedig â phensiynau