Lwfans Gofalwr
Mae'r Uned Lwfans Gofalwr yn ymgymryd  gweithgareddau allymestyn gyda sefydliadau lleol a chenedlaethol a drwy ddigwyddiadau corfforaethol y Gwasanaeth Anabledd a Gofalwyr. Y bwriad yw codi ymwybyddiaeth o Lwfans Gofalwr ac i adeiladu cysylltiadau gyda sefydliadau lleol a chenedlaethol. Rydym yn awyddus iawn i weithio gyda sefydliadau i gyrraedd y nifer o "ofalwyr cudd".
Digwyddiadau
Caiff digwyddiadau yn y dyfodol eu cyhoeddi pan gÂnt eu trefnu.
| Dyddiad | Lleoliad | Digwyddiad | Manylion |
|---|---|---|---|
| 04/10/10 | Band On The Wall 25 Swann St Manchester M4 5JZ |
Manchester Carers Forum | Benefits talk Open meeting 12.00pm – 3.00pm |
| 05/10/10 | Alnwick Rugby Club Willowburn Ave Alnwick NE66 1BG |
Alnwick Parkinsons | Benefits talk Closed meeting 2.00pm – 4.30pm |
| 06/10/10 | West Harton Church Boldon Lane South Shields NE34 0AS |
North East Carers Forum | Benefits talk Open meeting 11.00am – 3.00pm |
| 09/10/10 | Lumley Castle Chester-le-Street DH3 4NX |
MGA North East AGM |
Benefits talk Closed meeting 12.00pm – 3.30pm |
| 11/10/10 | Carnegie Museum Thorpe Rd Melton Mowbray LE13 1RB |
Melton Voluntary Action | Benefits talk Closed meeting 2.00pm – 4.30pm |
| 17/10/10 | Ramada Jarvis Hotel Manchester Rd Blackrod BL6 5RU |
MGA North West AGM |
Benefits talk Closed meeting 12.00pm – 3.30pm |
| 20/10/10 and 21/10/10 | Metro Radio Arena Newcastle-upon-Tyne NE4 7NA |
DNEX2010 | Information stand Open event 10.00am – 5.00pm |
Newyddion diweddaraf Allymestyn
Fel y Rheolwr Allymestyn ar gyfer Lwfans Gofalwr rwy'n gyfrifol am hyrwyddo'r budd-dal drwy gefnogi digwyddiadau sy'n cael eu cynnal gan sefydliadau gofalwyr gydag un ai stondin arddangos neu drwy roi sgwrs i ofalwyr yn un o'u cyfarfodydd. Yn ystod y sgwrs byddaf yn egluro'r amodau cymhwyso ar gyfer Lwfans Gofalwr, beth mae hawl yn ei olygu i ofalwr, sut y gall Lwfans Gofalwr effeithio ar fudd-daliadau eraill a sut i wneud cais am Lwfans Gofalwr yn ogystal ag unrhyw wybodaeth berthnasol arall a all fod o ddiddordeb. Mae hefyd yn rhoi'r cyfle i ofalwyr eu hunain ofyn cwestiynau a chodi materion am y budd-dal.
Os ydych yn cynnal (neu yn gwybod am) unrhyw ddigwyddiadau lle y byddai stondin arddangos y Gwasanaeth Anabledd a Gofalwyr yn fendithiol neu os hoffech i mi ymweld ag un o'ch grwpiau i siarad am lwfans Gofalwr yn ffurfiol neu'n anffurfiol, yna mae croeso i chi gysylltu  mi gan rwyf yn fwy na bodlon i gynnig fy nghefnogaeth.
Mae'r gwasanaeth yma am ddim.
Anfonwch e-bost os gwelwch yn dda at oliver.mawdsley@dwp.gsi.gov.uk
Gwybodaeth am berfformiad
Clirio ceisiadau
Mae’r Swyddfa Archwilio Genedlaethol wedi cytuno ar dargedau cenedlaethol ar gyfer clirio ceisiadau am Lwfans Gofalwr a chywirdeb ein taliadau. Mae’r tabl isod yn dangos sut mae’r Uned Lwfans Gofalwr wedi perfformio’r flwyddyn ddiwethaf.
| Lwfans Gofalwr | Cyrhaeddiad yn 2008/09 | Targed ar gyfer 2009/10 | Cyrhaeddiad yn 2009/10 |
|---|---|---|---|
| Cyfartaledd amser clirio (dyddiau gwaith) | 12.4 | 13.5 | 12.79 |
| Talu'r arian cywir | 99.4% | 98% | 99.68% |
Cwynion
Os yw cwsmer yn cwyno oherwydd nad ydynt yn fodlon gyda’n gwasanaeth, ein targed i ymateb i’r gŵyn yw saith diwrnod gwaith.
Ar gyfer y cyfnod o 1 Ebrill 2009 i 31 Mawrth 2010 mae’r tabl yn dangos:
y nifer o gwynion a dderbyniwyd gennym
y nifer a atebwyd o fewn yr amser a gytunwyd.
Ar 31 Mawrth 2010 roedd 962,171 o gwsmeriaid yn cael Lwfans Gofalwr.
| Cwynion Lwfans Gofalwr | |
|---|---|
| Cwynion a dderbyniwyd | Atebwyd o fewn y targed |
| 524 | 473 |
Y prif gwynion yn yr Uned Lwfans Gofalwr o 1 Ebrill 2009 i 31 Mawrth 2010 oedd:
1. Oedi gyda thalu budd-daliadau
2. Hawl i gael budd-dal
3. Gwybodaeth anghywir a dryslyd
I ymateb i’r materion hyn rydym wedi:
- adolygu ein gwirio amserol, sy’n rhoi adborth i staff yn syth, er mwyn ei wneud yn fwy perthnasol
- canolbwyntio ar y broses o Wellhad Parhaus i adnabod ffyrdd gwell o weithio
- lansiad llawn o’n Canolfan Gyswllt, canoli galwadau a chyflwyno timau prosesu
- cyflwyno dull newydd cyson i’r broses o wneud cais drwy wneud i ffwrdd a ffurflen gais ychwanegol, gan arwain at ddarparu’r un lefel o wasanaeth ar draws yr Uned
- gweithio gyda Rheoli Dyled i newid a symleiddio’r geiriad ar hysbysiadau
- defnyddio adborth cwsmeriaid i symleiddio’r penderfyniad hawl gwaelodol, gan ennill achrediad Saesneg Clir.
Canmoliaethau
Pan fydd cwsmeriaid yn hapus gyda’n gwasanaeth maent weithiau yn rhoi gwybod i ni.
Derbyniodd yr Uned Lwfans Gofalwr 182 o ganmoliaethau rhwng 1 Ebrill 2009 a 31 Mawrth 2010.
Sylwadau
I wneud sylwadau ar y wybodaeth a ddarparwyd ar y dudalen hon, anfonwch e-bost at: external.communications@dwp.gsi.gov.uk
Sut i gysylltu  ni
Am fanylion ar sut i gysylltu  ni dros y ffÔn, drwy'r post neu gydag e-bost ewch i dudalen cysylltu Â'r DCS.