Symleiddio'r drefn gwneud cais
Mae'r Gwasanaeth Anabledd a Gofalwyr yn ymrwymedig i symleiddio'r drefn ar gyfer gwneud cais am Lwfans Gweini a Lwfans Byw i'r Anabl.
Rydym am ei gwneud yn haws i bobl anabl roi'r wybodaeth sydd ei hangen arnom i wneud penderfyniadau cywir am eu ceisiadau mor gyflym â phosibl.
Dyna pam rydym wedi ailgynllunio'r ffurflen Lwfans Byw i'r Anabl ar gyfer oedolion. Drwy ymgynghori â sefydliadau anabledd rydym wedi datblygu ffurflen gais newydd sy'n haws ei deall a'i chwblhau, yn ôl ein cwsmeriaid.
Ar hyn o bryd rydym yn gweithio ar y fersiwn nesaf o'r ffurflen a fydd yn cynnwys gwelliannau pellach yn ein tyb ni, yn enwedig bobl sydd â salwch meddwl.
Rydym hefyd wedi ailgynllunio'r ffurflen Lwfans Gweini ac, yn dilyn proses ymgynghori, rydym yn bwriadu ei threialu ddiwedd mis Medi eleni.
Mae trafodaethau wedi dechrau hefyd gyda chynrychiolwyr o grwpiau cynnal plant gyda'r bwriad o wella'r broses o wneud cais. Fel rhan o hyn, byddwn yn ceisio gwella ffurflenni cais plant.