Gwelliannau eraill rydym yn ymchwilio iddynt
Gweithio mewn partneriaeth
Ar hyn o bryd mae'r Gwasanaeth Anabledd a Gofalwyr yn gweithio'n agos gydag asiantaethau'r Adran Gwaith a Phensiynau a sefydliadau gwirfoddol a chymunedol i wella profiad cwsmeriaid a chynrychiolwyr.
Ar hyn o bryd rydym yn bwriadu ehangu gwasanaeth ymweld Y Gwasanaeth Pensiwn i bob cwsmer y Gwasanaeth Anabledd a Gofalwyr, waeth beth fo'u hoedran.
Rydym hefyd yn gweithio gyda'r Gwasanaeth Pensiwn i adolygu strwythur presennol y swyddfa amgen a phrosesau i wella cysondeb ac effeithlonrwydd ar gyfer bob parti.
Mae gweithio'n agosach gyda'r Ganolfan Byd Gwaith hefyd yn ein helpu i wella'r ffordd rydym yn rhannu gwybodaeth rhwng asiantaethau.
Gwybodaeth gliriach
Ein nod yw cefnogi cynrychiolwyr trydydd parti drwy ddosbarthu gwybodaeth glir, fel llythyr Hysbysu Cwsmeriaid gyda Rheswm gwell a ffurflenni cais mwy dealladwy.