Adran Gwaith a Phensiynau

Tools menu


Chwilio'r safle

Site navigation

Ynglŷn â DWP


Llinell Gymorth Lwfans Byw i'r Anabl a Lwfans Gweini

Mae gwelliannau parhaus i'r Llinell Gymorth Lwfans Byw i'r Anabl a Lwfans Gweini yn golygu bod cwsmeriaid yn cael gwasanaeth gwell, cyflymach a mwy ymatebol.

Mae cynyddu nifer y staff hyfforddedig wedi gwella'n hyblygrwydd i ymdrin â niferoedd uchel o alwadau ar amseroedd brig, ac i gynnal safonau gwasanaeth uchel yn effeithlon.

Mae'r gwellhad ym mherfformiad y Llinell Gymorth er 2004 wedi bod yn enfawr. Mae 95 y cant o gwsmeriaid bellach o'r farn fod y gwasanaeth naill ai'n ardderchog neu'n dda iawn.

Cydnabuwyd y gwelliant hwn gan y Llywodraeth pan dderbyniodd Llinell Gymorth DCS wobr fawreddog y Gwasanaeth Sifil 'Gwobr Ysgrifennydd y Cabinet am Berfformiad Rhagorol yn 2006.

Mae'r Llinell Gymorth wedi'i hailachredu gan Sefydliad y Canolfannau Cyswllt am yr ail flwyddyn yn olynol. Cafodd ein Llinell Ymholiadau am Fudd-daliadau ei hachredu felly hefyd.

Dengys yr achredu fod ein canolfannau cyswllt ymysg y gorau ar draws y sector cyhoeddus a'r sector preifat o ran ansawdd y gwasanaeth.

Mae'r wybodaeth ar y wefan hon yn Gymraeg. Fodd bynnag, gall rhai cysylltiadau eich arwain at wybodaeth yn Saesneg.