Beth rydym yn ei wneud i wella pethau i'n cwsmeriaid
Rydym yn cymryd eich cwynion o ddifrif ac o ganlyniad yn anelu i wella ein gwasanaethau. Dyma rhai enghreifftiau o beth rydym yn ei wneud i wella pethau i'n cwsmeriaid.
Enghreifftiau o'ch adborth
Daeth fy Lwfans Gofalwr i ben yn ddirybudd
Rydym nawr yn anfon llythyr i chi 28 diwrnod cyn diwedd dyfarniad o Lwfans Byw i'r Anabl neu Lwfans Gweini i’ch hysbysu y bydd Lwfans Gofalwr hefyd yn dod i ben.
Nid oeddwn yn meddwl bod y ffurflen fyrrach a ddefnyddir gan yr Uned Lwfans Gofalwr yn addas
Rydym wedi edrych ar gynnwys a hyd y ffurflen gais ac wedi darganfod bod rhai anghysonderau gyda’r ffyrdd y delwyd â cheisiadau gwahanol. Rydym wedi cyflwyno ffordd fwy cyson o ddelio â cheisiadau ac wedi diddymu’r ffurflen gais byrrach.
Roedd yr hysbysiad o ordaliad yn rhoi dyddiad o ac i ar gyfer y gordaliad, oedd yn gwneud iddo ymddangos fel bod angen ad-dalu’r holl gyfnod
Rydym wedi newid y geiriad ar yr hysbysiad gordaliad i’w wneud yn haws i chi ei ddeall.
Mae Rhif Yswiriant Gwladol y Plentyn yr un fath â’r rhif cyfeirnod Lwfans Byw i'r Anabl
Rydym wedi newid ein sgrin help a’r pecyn cais clerigol i egluro y dylai Rhif Yswiriant Gwladol y Plentyn fod yr un fath â’r rhif cyfeirnod Lwfans Byw i'r Anabl.
Roeddwn yn bryderus gyda rhai’r o’r ymholiadau a wnaethoch pan fu farw’r person anabl y gofalwyd amdanynt yn yr ysbyty
Rydym wedi datblygu ffurflen newydd ac wedi dileu rhai o’r cwestiynau mwyaf dideimlad. Mae’r ffurflen yn gofyn y cwestiynau maent eu hangen ond hefyd mae’n cynnig yr opsiwn i chi ffonio os ydych yn teimlo eich bod yn gallu.
Roeddwn yn disgwyl i’m Lwfans Gofalwr gael ei dalu ar ŵyl y banc
Fel arfer mae Lwfans Gofalwr yn cael ei dalu ar ddydd Llun ond mae hyn yn debygol o newid ar ŵyl y banc. Rydym nawr wedi rhoi neges gyda rhagor o wybodaeth ar ein llinell ffôn yn ystod y cyfnodau hyn.
Bu’n rhaid i mi gysylltu â nifer o wahanol swyddfeydd yr Adran Gwaith a Phensiynau i’ch hysbysu fy mod wedi newid fy nghyfeiriad
Nawr dim ond unwaith y bydd angen i chi gysylltu â ni i ddweud am newid mewn cyfeiriad.
Pan ffoniais y ganolfan gyswllt roeddwn yn ystyried y gerddoriaeth a chwaraewyd tra roeddwn yn aros yn anaddas
Rydym wedi newid y gerddoriaeth i rywbeth sy’n fwy addas!
Cefais ofid pan ysgrifennoch ataf i ddweud bod gordaliad wedi cymryd lle yn syth yn dilyn marwolaeth fy ngŵr
Rydym wedi newid ein prosesau fel nad ydym yn cysylltu â'r perthynas agosaf am dair wythnos yn dilyn marwolaeth un o’r teulu.
Ni wnaethoch ddiweddaru fy nghynrychiolydd am y penderfyniad ar fy nghais am Lwfans Byw i'r Anabl
Pan rydym yn eich hysbysu am y penderfyniad ar eich cais mae swyddogion gwneud penderfyniadau nawr yn cael eu hatgoffa i anfon copi hefyd i’ch cynrychiolydd.
Pan wnaethoch ymateb i’m cwyn roedd y llythyr wedi cael ei eirio’n wael
Rydym yn gwirio llythyrau cyn iddynt gael eu hanfon atoch er mwyn sicrhau eu bod wedi cael eu hysgrifennu’n dda a bod eich holl bwyntiau wedi cael eu cwmpasu.
Nid ydych bob amser yn siarad ag asiantaethau eraill yr Adran Gwaith a Phensiynau sydd ynghlwm â'm cwyn
Rydym wedi gwella ein canllawiau i’w gwneud yn glir pwy ddylai gymryd yr arweiniad pan mae mwy nag un asiantaeth ynghlwm a delio â chwyn.
Nid ydych wir yn deall sut deimlad yw bod yn gwsmer yn cysylltu â'ch gwasanaeth
Rydym yn cynnal ‘siopio dirgel’ sy’n rhoi golwg gwrthrychol i ni ar sut mae ein staff yn delio â chwsmeriaid. Mae’n edrych ar bethau fel:
- Pa mor hawdd yw hi i gysylltu â ni.
- Pa mor gyflym rydym yn ateb galwadau cwsmeriaid.
- Sut rydym yn delio â chwsmeriaid.
- Os oes yn rhaid i ni drosglwyddo cwsmer i rywun arall.
- Cywirdeb gwybodaeth.
Rydym yn cyfarfod yn rheolaidd gyda staff sydd ar y llinell flaen i drafod perfformiad. Rydym hefyd yn gweithio gyda chanolfannau ble mae perfformiad yn yn is na'r cyfartaledd cenedlaethol.