Adran Gwaith a Phensiynau

Tools menu


Chwilio'r safle

Site navigation


Rheoli Achosion Cwsmeriaid

Mae Rheoli Achosion Cwsmeriaid (CCM) yn cefnogi ymagwedd gyson i'r broses gwneud penderfyniadau mewn achosion o hawlio Lwfans Byw i'r Anabl (16 oed a throsodd) a Lwfans Gweini.

Rydym yn anelu at wella:

Ymagwedd y CCM

Mae ymagwedd y CCM:

Cynnydd hyd yn hyn

Cafodd yr ymagwedd CCM ei phrofi yng Nghanolfannau Trafod Budd-daliadau Bootle, Manceinion a Warbreck House fo fis Medi 2005 i fis Mawrth 2006.

Mae'r profion wedi dangos canlyniadau calonogol iawn:

Nid oedd gwahaniaeth arwyddocaol yn nifer yr achosion y dyfarnwyd lwfans iddynt ond roedd mwy o benderfyniadau yn seiliedig ar y wybodaeth yn y ffurflen hawlio yn unig.

Dengys y canfyddiadau duedd tuag at ofyn am dystiolaeth o'r ffynhonnell fwyaf priodol.

Beth sy'n digwydd nawr?

Rydym yn gwneud mwy o waith ar ganllawiau meddygol, casglu tystiolaeth a'r broses yn gyffredinol – oherwydd awgrymai'r profion y gellid gwneud mwy o welliannau yn y meysydd hyn. Rydym yn parhau i weithio'n agos gyda'n partneriaid mewnol ac allanol allweddol.

Yn benodol, mae gwaith yn mynd rhagddo i ddatblygu hysbysiad sy'n cynnwys y rheswm dros y penderfyniad.

Rydym yn bwriadu gweithredu'r ffurflen hawlio well yn genedlaethol o ddiwedd mis Ebrill 2007.

Mae'r wybodaeth ar y wefan hon yn Gymraeg. Fodd bynnag, gall rhai cysylltiadau eich arwain at wybodaeth yn Saesneg.