Adran Gwaith a Phensiynau

Tools menu


Chwilio'r safle

Site navigation


Ymgynghori â sefydliadau cwsmeriaid

Rydym yn cydweithio'n agosach ag awdurdodau lleol a sefydliadau gwirfoddol a chymunedol i ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid gwell i'r cwsmeriaid hynny rydym yn eu rhannu.

Rydym wedi datblygu fforwm ar gyfer ymgynghori'n gynnar â phartneriaid ar lefel genedlaethol ar fentrau gweithredu newydd. Byddwn yn defnyddio'r fforwm hefyd i hyrwyddo datblygu ar y cyd a phrofi rhai mentrau newydd

Rydym yn cydweithio â 17 o sefydliadau gwirfoddol cenedlaethol a chymunedol, sy'n ffurfio Fforwm Ymgynghorol DCS. Dyma'r prif gorff rydym yn ymgynghori ag ef ynghylch newidiadau a gwelliannau arfaethedig.

Hefyd rydym wedi sefydlu Grwp Gofalwyr Teulu. Rydym yn ei ddefnyddio er mwyn cael barn a sylwadau ar newidiadau sy'n effeithio ar ein cwsmeriaid sy'n blant.

Rydym wedi ymgynghori â'r Ganolfan Gyngor ar Bopeth i wella'r gwasanaeth rydym yn ei ddarparu i'n cwsmeriaid.

Rydym wedi cynnal gweithdai gydag ymgynghorwyr o'r Ganolfan Gyngor ar Bopeth a sefydliadau lles eraill er mwyn gwella Gwneud Penderfyniadau .

Hefyd rydym yn datblygu Rhaglen Allymestyn newydd i weithio gyda sefydliadau perthnasol ar bob lefel.

Rydym yn ymgynghori'n rheolaidd ag Ymddiriedolaeth y Dywysoges Frenhinol i Ofalwyr a Gofalwyr DU.

Mae'r Adran Gwaith a Phensiynau yn cynnal Fforymau gwahanol bob blwyddyn er mwyn cyfarfod â sefydliadau gwirfoddol a chymunedol. Mae un o'r rhain ar gyfer sefydliadau anabledd yn benodol.

Mae'r Swyddfa Materion Anabledd yn cefnogi'r DCS ac adrannau eraill o'r llywodraeth i wella'r ffordd maent yn cysylltu â phobl a sefydliadau anabl. Yn rhan o hyn, yn 2006, lansiwyd Cydraddoldeb 2025 - Rhwydwaith Ymgynghorol y DU ar Gydraddoldeb Anabledd er mwyn helpu i lunio polisïau a gwasanaethau y mae eu hangen ar bobl anabl.

Mae'r wybodaeth ar y wefan hon yn Gymraeg. Fodd bynnag, gall rhai cysylltiadau eich arwain at wybodaeth yn Saesneg.