Adran Gwaith a Phensiynau

Tools menu


Chwilio'r safle

Site navigation


Canolfan Gyswllt Lwfans Gofalwr

Ym mis Mawrth 2006, agorwyd Canolfan Gyswllt gan yr Uned Lwfans Gofalwr er mwyn darparu gwasanaeth cyflym o ansawdd dda i gwsmeriaid.

Ni newidiwyd unrhyw un o rifau'r Lwfans Gofalwr. Caiff galwadau eu cyfeirio nawr at ymgynghorwyr a fydd yn ymdrin ag ymholiadau cyffredinol, newid mewn amgylchiadau ynghyd â chwynion a chanmoliaethau.

Mae'r gwasanaeth wedi tyfu'n raddol; a bellach mae'n derbyn galwadau gan bron i 40% o gwsmeriaid, eu cynrychiolwyr a phartïon eraill.

Beth yw barn y cwsmeriaid?

Yn ôl arolwg y llynedd, at ei gilydd, roedd ansawdd gwasanaeth y Ganolfan Gyswllt wedi gwneud argraff dda ar y cwsmeriaid. O ganlyniad i adborth yn sgil yr arolwg, bu gwelliannau ar faterion fel cwsmeriaid yn gorfod esbonio eu hamgylchiadau i fwy nag un person.

Bwriedir cynnal arolwg arall yn 2007 i helpu'r Uned i wella profiad y cwsmer yn barhaus.

Mae'r wybodaeth ar y wefan hon yn Gymraeg. Fodd bynnag, gall rhai cysylltiadau eich arwain at wybodaeth yn Saesneg.