Achredu ar gyfer Swyddogiion Penderfyniadau - Proffesiynoldeb wrth Benderfynu ac Apelio
Yn rhan o'n hymrwymiad i wasanaeth cwsmeriaid mae'r DCS yn cyflwyno Proffesiynoldeb wrth Benderfynu ac Apelio (PIDMA).
Mae PIDMA yn rhaglen arloesol o achredu a datblygiad proffesiynol parhaus i'r penderfynwyr a'u rheolwyr arbenigol sy'n ymdrin â Lwfans Byw i'r Anabl a Lwfans Gweini.
Drwy PIDMA, bydd y DCS yn codi safonau gwneud penderfyniadau trwy wella ansawdd a chysondeb penderfyniadau, ac fe'u cefnogir gan safonau rhagoriaeth a gydnabyddir yn genedlaethol.
Rhaglen ddysgu fodiwlaidd ar sail gwaith yw PIDMA sy'n arwain at achredu. Datblygwyd y rhaglen mewn partneriaeth â Phrifysgol Caer ac mae'n gysylltiedig â dyfarniadau Addysg Uwch y Brifysgol.
Elfen allweddol o'r rhaglen yw datblygu meddwl beirniadol swyddogion penderfyniadau a'u rheolwyr trwy fyfyrio ar eu harferion gwneud penderfyniadau, eu profiad a'u dysg yn y gweithle.
Mae'r sgiliau a ddatblygir yn cynnwys casglu a gwerthuso tystiolaeth sy'n berthnasol i anabledd, dadansoddiad beirniadol o dystiolaeth, bod yn ymwybodol o nam cyfredol a gwasanaeth cwsmeriaid. Mae canolbwyntio ar arweinyddiaeth hefyd ar gyfer rheolwyr.
Cynhwysid partneriaid allanol a rhanddeiliaid gan gynnwys sefydliadau dros yr anabl wrth ddatblygu'r rhaglen hon er mwyn sicrhau eu bod yn canolbwyntio ar y cwsmer.
Mae PIDMA yn cael ei gyflwyno yn dilyn cynllun peilot llwyddiannus ym mis Rhagfyr 2006 o'r cynllun achredu a'r rhaglen ddysgu ar sail gwaith.
Rydym yn trafod gwerthuso PIDMA â nifer o gyrff anabledd cenedlaethol.