Cyflenwi cwsmeriaid
Siarter Cwsmeriaid Yr Adran Gwaith a Phensiynau
Rydym yn anelu i ddarparu gwasanaeth o safon uchel ac effeithlon i'n holl gwsmeriaid. Mae Siarter Cwsmeriaid Yr Adran Gwaith a Phensiynau yn gosod allan y safonnau y gallwch eu disgwyl gennym a beth yw eich cyfrifoldebau chi.
- Siarter Gwybodaeth(42KB)
Rhowch wybod i ni os ydych yn anfodlon gyda'n gwasanaeth.
Y Ganolfan Byd Gwaith
Mae'n helpu pobl i baratoi ar gyfer gwaith a dod o hyd i gyflogaeth briodol ac yn cyflenwi budd-daliadau oedran gweithio fel Lwfans Ceisio Gwaith a Lwfans Cyflogaeth a Chymorth.
Y Gwasanaeth Pensiwn
Yn darparu pensiynau, budd-daliadau a gwybodaeth am ymddeol i bensiynwyr a chwsmeriaid y dyfodol, er enghraifft: Pensiwn y Wladwriaeth a Chredyd Pensiwn.
Gwasanaeth Anabledd a Gofalwyr
Yn darparu cefnogaeth ariannol i bobl sy’n hawlio budd-daliadau anabledd a’u gofalwyr, er enghraifft: Lwfans Byw i’r Anabl a Lwfans Gofalwr.
Cronfa Gymdeithasol Ewrop
Mae Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF) yn fenter gan yr Undeb Ewropeaidd o fewn DWP ac sy'n cefnogi gweithgareddau i hyrwyddo cyfleoedd cyflogaeth i bawb. Mae wedi'i hanelu'n arbennig at bobl dan anfantais yn y farchnad lafur neu sydd  sgiliau isel neu heb sgiliau o gwbl.
Ers 2000 mae ESF wedi helpu dros 4 miliwn o bobl yn Lloegr i wella eu cyflogadwyedd a'u sgiliau a datblygu eu potensial yn y gwaith.
Bydd tua £2 biliwn ar gael drwy raglen ESF i Loegr rhwng 2007 a 2013 i gefnogi strategaethau'r Llywodraeth i gynyddu cyflogaeth a gwella sgiliau pobl ifanc ac oedolion.