Pam rydym yma
Mae'r Gwasanaeth Pensiwn yn ffurfio rhan o'r Gwasanaeth Pensiwn, Anabledd a Gofalwyr (PDCS) sy'n asiantaeth weithredol o'r Adran Gwaith a Phensiynau. Mae cwsmeriaid y Gwasanaeth Pensiwn yn bensiynwyr presennol a phensiynwyr y dyfodol.
Rydym yn darparu ein cwsmeriaid gyda gwybodaeth am bensiynau, budd-daliadau ac ymddeoliad, er enghraifft, Pensiwn y Wladwriaeth a Chredyd Pensiwn.
Ein hamcanion yw
- Hyrwyddo annibyniaeth a lles wrth fynd yn hŷn, parhau i fynd i'r afael â thlodi ymysg pensiynwyr a gweithredu diwygiadau pensiwn.
- Talu'r budd-daliadau cywir ar yr amser cywir i'n cwsmeriaid.
- Gwneud yr Adran Gwaith a Phensiynau yn enghreifftiol o gyflenwi gwasanaeth effeithiol i unigolion a chyflogwyr.
Mae ein gwasanaethau ar gael ar-lein drwy Directgov, dros y ffôn neu drwy'r post ac e-bost.
- Directgov - Pensiynau (Directgov)
- Pwy i gysylltu â yn y Gwasanaeth Pensiwn (Directgov)
Mewn rhai amgylchiadau gellir darparu cyfarfodydd wyneb yn wyneb drwy'r Gwasanaeth Lleol, lle y byddai rhywun yn ymweld â chwsmeriaid yn eu cartref neu rhywle cyfleus yn eu hardal leol. Mae Gwasanaeth Lleol wedi ei sefydlu ledled Cymru, Lloegr a'r Alban.
Rydym yn cydweithio'n agos gyda'n cydweithwyr ar draws yr Adran Gwaith a Phensiynau a sefydliadau eraill ar draws y DU gyda phwy rydym yn rhannu cwsmeriaid â hwy.