Polisi preifatrwydd

Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau yn casglu gwybodaeth at ddibenion delio gyda nawdd cymdeithasol, cynhaliaeth plant, materion yn ymwneud â niwed trwy frechiad, cyflogaeth, hyfforddiant, polisi pensiynau preifat a chynllunio ar gyfer ymddeoliad. Mae’r wybodaeth y byddwn yn ei chasglu amdanoch chi yn dibynnu ar y rheswm dros eich busnes gyda ni, ond gallwn ddefnyddio’r wybodaeth hon at unrhyw un o’r dibenion hyn.

Gallwn ni wirio gwybodaeth amdanoch chi yn erbyn gwybodaeth arall sydd gennym. Gallwn ni ganfod gwybodaeth amdanoch chi gan bobl eraill a rhai sefydliadau eraill. Gallwn roi gwybodaeth i rai sefydliadau eraill, lle bo’r gyfraith yn caniatáu, i:

Mae’r sefydliadau eraill hyn yn cynnwys adrannau eraill y llywodraeth, awdurdodau lleol a chyrff sector preifat, fel banciau a sefydliadau, a allai fenthyg arian i chi. Ni fyddwn yn rhoi gwybodaeth amdanoch chi i unrhyw un y tu allan i’n hadran oni fydd y gyfraith yn caniatáu i ni wneud hynny.

Yr Adran Gwaith a Phensiynau yw’r Rheolwr Data at ddibenion y Ddeddf Diogelu Data.

Cwcis

Mae’r gwasanaeth hwn yn defnyddio cwcis sesiwn i wella’ch profiad o’r gwasanaeth. Nid yw cwcis sesiwn yn cynnwys unrhyw wybodaeth bersonol amdanoch chi a chânt eu dileu pan fyddwch chi’n gadael y safle. Ni fyddwn ni fel arfer yn defnyddio cwcis ar ein gwefan.