Defnyddiwch y gwasanaeth hwn:
- i wneud cais am Lwfans Gofalwr, neu
- i roi gwybod am newid yn eich amgylchiadau os ydych chi eisoes yn derbyn Lwfans Gofalwr.
Nid oes yn rhaid i chi orffen eich cais neu roi gwybod mewn un tro. Os ydych chi wedi mynd drwy’r broses yn rhannol, gallwch chi ddychwelyd a’i gorffen unrhyw bryd cyn pen:
- pum niwrnod yn achos ceisiadau neu
- ddau ddiwrnodyn achos newidiadau mewn amgylchiadau.
Er eich diogelwch chi, mae’n rhaid i’ch porwr ddefnyddio cyswllt Haen Soced Diogel (Secure Socket Layer neu SSL) 128-did. Os na all eich porwr ddefnyddio SSL, efallai y bydd angen i chi ei uwchraddio.
Mae ein polisi preifatrwydd yn esbonio sut rydym yn casglu ac yn defnyddio gwybodaeth. Darllenwch y polisi cyn defnyddio’r e-wasanaeth.
Darllenwch ein cwestiynau mynych am ragor o wybodaeth am y gwasanaeth hwn.