Help (launches new window) DWP Home page

English

Gwnewch gais am Lwfans Gofalwr neu adrodd am newid ar-lein

Important Information

Gwnewch nodyn o’r wybodaeth bwysig hwn cyn gwneud cais am Lwfans Gofalwr ar-lein.

Nodwch, oherwydd newidiadau i ddeddfwriaeth ym mis Ebrill 2013 efallai y cysylltir â chi am wybodaeth ychwanegol ynglŷn â’ch cais.

1. Pasbortau – Pan rydych wedi cwblhau’r cais byddwch yn gweld rhestr o ddogfennau rydym angen i chi anfon atom. Gallai hon ofyn am eich pasbort ond peidiwch ag anfon eich pasbort ar hyn o bryd. Os byddwn angen ei weld unwaith mae’r cais gennym, byddwn yn cysylltu i adael i chi wybod.

2. Lwfans Gofalwr ychwanegol am oedolyn dibynnol - O 6 Ebrill 2010 ni allwch gael y swm ychwanegol o Lwfans Gofalwr am oedolyn dibynnol mwyach. Fodd bynnag, bydd y cwestiwn 'Ydych chi eisiau gwneud cais am oedolyn dibynnol?' yn cael ei ofyn i chi o hyd gan na ellir ei dynnu o'r cais ar-lein hwn ar hyn o bryd.

Dylech ateb 'na' i'r cwestiwn hwn i osgoi unrhyw gwestiynau pellach gael eu gofyn ynglŷn â hyn. Nid oes angen anfon eich tystysgrif priodas atom.

3 Gwybodaeth Ychwanegol – Mae’n rhaid i chi ddweud wrthym yn yr adran Gwybodaeth Arall yn Rhan 13 o’r ffurflen hon os yw’r person rydych yn gofalu amdano yn cael Taliad Annibyniaeth y Lluoedd Arfog.

4. Internet Explorer 8 - Dylai’r gwasanaeth weithio ar y rhan fwyaf o systemau yn seiliedig ar Microsoft Windows Apple Macintosh a systemau yn seiliedig ar Linux gyda’r rhan fwyaf o borwyr diweddar, yn cynnwys Internet Explorer, Mozilla Firefox, Opera a Safari. Fodd bynnag, y cyngor yw peidio â defnyddio Internet Explorer 8 gan y gallai hyn greu rhywfaint o anawsterau.

5. Llenwi'r ffurflen – Peidiwch â defnyddio'r symbolau canlynol wrth lenwi eich cais ar-lein: £ ( ) @. Oherwydd problem dechnegol, os ydych yn defnyddio'r symbolau hyn bydd y wybodaeth rydych yn ei deipio yn cael ei golli ac ni fydd eich cais yn cael ei anfon.

 


Dewiswch "arbed ac ymadael"bob tro cyn gadael yr e-wasanaeth.