Dylech nodi’r wybodaeth pwysig hwn cyn i chi wneud cais am Lwfans Gofalwr ar-lein.
1. Gwnewch yn siwr eich bod yn cwblhau’r ffurflen yn llawn drwy ddewis ‘parhau’ ar bob sgrîn, cyn dewis ‘anfon’.
Bydd neges ar y sgrîn yn dweud wrthych os yw eich ffurflen wedi cael ei hanfon a’i derbyn yn llwyddiannus gan yr Uned Lwfans Gofalwr.
Os nad ydych yn gweld y neges yma dylech fynd i mewn i’r gwasanaeth eto drwy ddefnyddio’r rhif trosglwyddiad 7 nod a roddir i chi ar ddechrau’r ffurflen, a mynd yn eich blaen i gwblhau ag anfon.
2. Pan fyddwch wedi cwblhau’r cais byddwch yn gweld rhestr o ddogfennau rydym am i chi eu hanfon atom. Gallai hyn gynnwys eich pasbort.
Peidiwch ag anfon eich pasbort ar hyn o bryd.
Os byddwn angen ei weld unwaith byddwn wedi cael eich cais, byddwn yn cysylltu i roi gwybod i chi.